Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 15 Medi 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.30 - 16.06 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Suzy Davies AC Eluned Parrott AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 CLA427 - Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014
2.2 CLA428 - Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014
2.3 CLA429 - Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014
2.4 CLA430 - Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014
2.5 CLA432 - Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
2.6 CLA434 - Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014
2.7 CLA435 - Rheoliadau Adroddiad y Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014
2.8 CLA436 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014
2.9 CLA437 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
2.10 CLA438 - Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014
2.11 CLA439 - Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
2.12 CLA441 - Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA440 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014
3.2 CLA433 - Rheoliadau Cynnwys Sylffwr Tanwyddau Hylifol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
3.3 CLA431 - Rheoliadau Clefydau Moch 2014
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan Brif Weinidog Cymru ynghylch canllawiau dwyochrog
Cytunodd y Pwyllgor i drafod y papur hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.2 Gohebiaeth ynghylch cynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar atal rhwydi drifft COM(2014)265
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod y cyfeirir ato yn llythyr y Comisiynydd.
4.3 Gohebiaeth gan y Llywydd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
4.4 Datganiad ysgrifenedig ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Nododd y Pwyllgor y Datganiad a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gofyn am fanylion pellach am yr amserlen ar gyfer gweithredu'r is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o Ddeddf 2014.
4.5 Llythyr gan Brif Weinidog Cymru ynghylch yr ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu a awgrymwyd yn llythyr y Prif Weinidog a chytunodd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2014.
4.6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Phedolwyr a Chytundebau Cartref-Ysgol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
4.7 Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol, Gorffennaf 2014
Nododd y Pwyllgor y Datganiad.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
5.1 Adroddiad Drafft ar y Bil Addysg Uwch (Cymru)
5.2 Ymchwiliad i Ddeddfu - y wybodaeth ddiweddaraf
5.3 Blaenraglen waith